Cartrefi.com
CARTREFI.com
Ydy hyn yn gweithio?

Ydy amod lleol ar bob tŷ newydd yn gwneud gwahaniaeth?

Ym Mharc Cenedlaethol Swydd Efrog, yn Lloegr, maen nhw wedi cychwyn gwneud hyn eisoes.

Maen nhw wedi deall yr angen - ac oherwydd eu gweledigaeth, sydd wedi'i gefnogi'n frwd gan Lywodraeth San Steffan, mae'n rhaid i bob tŷ newydd fod yn fforddiadwy i bobl leol.

Fel arall, nid oes modd ei werthu!

Dan ni ddim yn sôn am y math o 'fforddiadwy' sydd yn gwneud i chi chwerthin yn chwerw yn fan hyn 'chwaith - dim £120,000 ar gyfer catref cyntaf, dim lol.

Os nad ydy pobl leol yn medru ei fforddio,
chaiff o ddim ei WERTHU.

Felly mae'n RHAID i'r pris fod yn
wirioneddol o fewn cyrraedd pobl leol.

Un newid syml i'r sustem cynllunio - dim tai newydd OND i bobl leol - ac mae pobl leol sydd angen tai yn medru eu fforddio, mae teuleuoedd yn medru aros yn agos i'w gilydd, mae cymunedau yn medru parhau.

Beth sy'n cadw hyn rhag ddigwydd?

Ofn.

Ofn ein gwleidyddion.

Yr ofn y bydd pobl yn eu galw'n hiliol, yr ofn y bydd pobl yn pleidleisio yn eu herbyn.

Ofn di-sail, ac ofn di-angen

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn cefnogi cryfhau cymunedau.

Mae awdurdodau cynllunio wedi gwneud hyn eisoes yn Lloegr.

Ac mae pobl leol yn pleidleisio o blaid gwleidyddion sydd yn eu helpu nhw - ac, yn y pendraw, yn erbyn y rhai sydd â gormod o ofn i gwffio o'u plaid.

Mae'r amser wedi cyrraedd

Mae Cymuned yn galw ar eich Cyngor i newid eu polisïau cynllunio fel bod rhaid i BOB tŷ newydd fod ag amod lleol arno fo - dim tai newydd OND i bobl leol. Dim ond lle mae angen lleol mae cyfiawnhau codi tai newydd.

Digon ar reolau cymhleth, dryslyd sydd yn gadael i gwmnïau o Loegr werthu tai newydd i bobl gefnog o bell i ffwrdd ond yn rhwystro teuleuoedd lleol rhag godi tŷ i'r plant ar eu tir eu hunain.

Digon ar brisiau gwirion nad yw neb yn medru eu fforddio.

Digon ar i bobl eraill wneud elw o'n colledion ni.

DIM tai newydd OND i bobl leol!

Os ydych chi'n cytuno, tanysgrifiwch i e-bost
wythnosol CYMUNED,
am ddim, er mwyn clywed
sut rydym yn mynnu i'ch Cyngor newid.
Enw cyntaf:
      E-bost: