
Chwilio am grys-T CARTREFI.com? E-bostia'r swyddfa ar cymuned[at]cymuned.org!
£122,950 am dŷ dau lofft?
£169,000 am dŷ teras tri lloft i deulu ifanc?
Mae'n sicr y byddwch chi'n nabod rhywun sydd yn methu cystadlu fel y mae pethau.
Mae llawer o bethau gwahanol angen eu newid, ond mae rhai pethau CLIR a SYML y gellid eu newid RWAN HYN.
Cwmnïau barus
Un o'r problemau gwaethaf ydy'r ffaith bod busnesau yn adeiladu tai newydd er mwyn gwneud elw. Weithiau, yn glên i gyd, byddant yn cynnig 10%, neu 20% hyd yn oed, yn 'dai fforddiadwy'.
Y tai 'fforddiadwy' yma sydd i fod i roi'r cyfle i bobl leol gael ambell tŷ yng nghanol yr holl rai sy'n cael eu prynu gan bobl o bell i ffwrdd.
Ond pam bod angen i ni godi tai newydd i bobl ddiarth?
SIAWNS y cawn nhw fforddio cystadlu yn y farchnad bresennol - SIAWNS y cawn nhw fforddio prynu un o'r tai sydd wedi'u codi eisoes! Pam ar wyneb y ddaear bod angen i NI godi mwy o dai iddyn NHW?!
Yr UNIG pobl sy'n elwa o hyn ydy'r cwmnïau sydd yn gwerthu'r tai i bobl gefnog o bell i ffwrdd.
Pam nad yw'r Cyngor yn sefyll i fyny ar ein rhan ni?
Mae codi tai newydd ar gyfer pobl o bell i ffwrdd yn gwneud niwed i bobl leol.
Mae'n cadw pobl ifanc lleol rhag fedru aros yn eu cymunedau.
Mae'n chwalu ein cymunedau.
Dim ond cwmnïau barus sy'n elwa, a'r rhan helaeth ohonyn nhw o Loegr!
RHAID rhoi stop ar hyn
Mae Cymuned yn galw ar eich Cyngor i newid eu polisïau cynllunio fel bod rhaid i BOB tŷ newydd fod ag amod lleol arno fo - dim tai newydd OND i bobl leol. Dim ond lle mae angen lleol mae cyfiawnhau codi tai newydd.
Digon ar reolau cymhleth, dryslyd sydd yn gadael i gwmnïau o Loegr werthu tai newydd i bobl gefnog o bell i ffwrdd ond yn rhwystro teuleuoedd lleol rhag godi tŷ i'r plant ar eu tir eu hunain.
Digon ar brisiau gwirion nad yw neb yn medru eu fforddio.
Digon ar i bobl eraill wneud elw o'n colledion ni.
DIM tai newydd OND i bobl leol!